Pwll a Llithrennau

Mae parc dŵr yr LC yn sicr o fod yn ffefryn gydag ymwelwyr o bob oedran gyda’i rwydwaith o byllau a sleidiau - byddwch yn cael amser wrth eich bodd!

Click on the thumbnail to view all images

Dyma ychydig yn unig o’r nodweddion arbennig …

NEWYDD!! Bae’r Llosgfynydd: Sleifiwch heibio’r seirff sy’n tasgu dŵr i’r pwll tonnau a cherdded trwy’r wal ddŵr i gyrraedd sleid mewn llosgfynydd! Ond gan bwyll… mae’r llosgfynydd yn fyw … bydd mwg a goleuadau laser yn llenwi’r parc dŵr pan fydd y llosgfynydd yn ffrwydro! Gwyliwch y fideo trwy glicio yma!

Y Masterblaster: Y sleid ddŵr droellog fwyaf cyffrous sy’n saethu pobl ar gyflymder uchel i fyny llethrau serth ac i lawr disgyniadau dwfn ar gylch rwber.

Yr Afon Ddiog: Afon droellog sy’n cludo nofwyr i’r pwll tonnau.

Pwll rhyngweithiol: Perffaith i blant iau, mae’n cynnwys sleid fach, bwcedi tipio a ffynhonnau.

Hefyd… y sleid ddŵr, y tiwb dŵr, y pwll tonnau, y trobwll a morlyn yr LC!

Os nad yw hyn yn ddigon, efallai byddwch yn ddigon ffodus i weld Tommy’r Crwban Môr sydd wrth ei fodd yn sblasio yn y parc dŵr! I wybod mwy am Tommy a lawrlwytho gemau gwych Tommy, ewch i Amser Tommy!

Pen-blwydd ar y gorwel? Trowch eich ymweliad â’r parc dŵr yn barti!

Rydym yn croesawu grwpiau o bob faint i barc dŵr yr LC ac yn cynnig gostyngiadau i grwpiau mawr sydd am ymweld â ni. Ewch i’n tudalen Gwybodaeth Trefnu Ymweliadau Grŵp nawr!

Opening Times & Prices

Yn ystod y tymor:

Dydd Llun – dydd Gwener: 4.00pm – 9.00pm

Dydd Sadwrn – dydd Sul: 9.00am – 8.00pm

Gwyliau Ysgol a Banc:

Dydd Llun – dydd Sul: 9.00am – 8.00pm

Diwrnodau HMS ysgolion lleol: 11.00am – 7.00pm

Oedolion: £7 (£6 i ddeiliaid Cerdyn Preswyliwr Abertawe)

Plant (3 ac iau): AM DDIM

Pensiynwyr/deiliaid cerdyn PTL: £3

Myfyrwyr: £4 (wrth ddangos prawf adnabod dilys)

(Sesiwn 2 awr yw profiad y Parc Dŵr)

(Derbynnir talebau Tesco Clubcard Deal – I gael eich talebau cliciwch yma

Trefnwch eich ymweliad ymlaen llaw trwy ffonio 01792 466500 (opsiwn 1 ac yna opsiwn 6)

More Information

Mae isafswm taldra o 1.1 metr ar gyfer pob sleid ddŵr.

Rheolau’r Pwll:

Rhaid i blant gael eu goruchwylio yn unol â’r cymarebau oedolyn/plentyn canlynol.

Yn achos plant 3 oed ac yn iau, mae angen un oedolyn i oruchwylio un plentyn.

Yn achos plant 4-7 oed, mae angen un oedolyn i oruchwylio dau blentyn.

Gall plant 8 oed ac yn hŷn ddefnyddio’r pwll heb oruchwyliaeth ond rhaid i unrhyw blentyn nad yw’n gallu nofio’n hyderus gael ei oruchwylio yn y dŵr ar bob adeg, ni waeth beth yw ei oedran.

Rhaid i blant o dan 2 oed wisgo cewyn nofio.

Gellir prynu goglau, tywelion, bandiau braich ac ategolion eraill ar gyfer y pwll yn siop yr LC yn y brif dderbynfa, neu ewch i’n siop ar-lein